Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Chwefror 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth llety ar gyfer pobl sy'n gadael carchar Caerdydd yng ngoleuni'r adroddiad diweddaraf gan y Bwrdd Monitro Annibynnol?
(5 munud)
NDM6971 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
NDM6972 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Delyth Jewell (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).
(30 munud)
Dogfennau
Ategol
Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
(60 munud)
NDM6965 Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 – a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2019.
Cafwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru i'r adroddiad ac fe’i cyhoeddwyd ar dudalen y Pwyllgor ar y we ar 14 Ionawr 2019.
(60 munud)
NDM6967 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw.
2. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu cyflawni yng Nghymru.
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.
(60 munud)
NDM6966 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.
2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.
2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu.
Yn nodi bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu 'na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru' a rhoi yn ei le 'na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn i etholiadau Cymru yn y dyfodol'.
(30 munud)
NDM6962 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar gyfer heriau modern.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Chwefror 2019